Lleoliad:
Via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2022
Amser:
09.00 -
09.18
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Yn dilyn gohebiaeth a dderbyniwyd gan y Trefnydd, nododd y Llywydd ei bod wedi rhoi ei chytundeb, yn unol â Rheol Sefydlog 33.8, y gallai'r Senedd ystyried y Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog heddiw yng ngoleuni'r amserlenni ynghylch ystyried Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn Senedd y DU.
Cadarnhaodd y Llywydd ei bod wedi derbyn Cwestiwn Brys i'w ofyn ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ar Wcrain.
Dywedodd y Llywydd hefyd y byddai ffotograffydd yn bresennol yn y Siambr am gyfnod byr ar ddechrau’r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Dydd Mercher
Fformat y Cyfarfod Llawn
Cadarnhaodd y Llywydd y bydd cynllun eistedd sefydlog ar waith ar gyfer y Cyfarfod Llawn o heddiw ymlaen, ar ôl dileu'r cyfyngiadau ar nifer yr Aelodau sy'n gallu bod yn y Siambr ar unrhyw adeg.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 8 Mawrth 2022 -
Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022 -
· Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2021-22 (30 munud)
· Dadl: Diwygiad i Setliad Llywodraeth Leol 2021-2022 (15 munud)
Gofynnodd Darren Millar a yw'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i wneud datganiad llafar ar y trefniadau ar gyfer erthyliad meddygol cynnar gartref, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror. Cytunodd y Trefnydd i ddarparu rhagor o wybodaeth ar ffurf nodyn i Aelodau'r Pwyllgor Busnes.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 23 Mawrth 2022 -
3.4 Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 9 Mawrth 2022:
NNDM7925 Mike Hedges
Cynnig bod y Senedd:
Yn cefnogi datganoli plismona.
Cyd-gyflwynwyr
Alun Davies
Jane Dodds
Delyth Jewell
Rhys ab Owen
Cefnogwyr
Sarah Murphy
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022
Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn adrodd ar y rheoliadau hyn cyn y ddadl heddiw yn y Cyfarfod Llawn.
4.2 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd:
5 Amserlen y Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gynnal cyfarfod ychwanegol ar fore 28 Mawrth 2022.
6 Unrhyw faterion eraill
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd i ymgynghori â'u grwpiau ar y diwygiadau arfaethedig i amserlen y pwyllgorau gyda'r bwriad y bydd y Pwyllgor Busnes yn gwneud penderfyniadau yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.